Gwefan yw hon i gefnogi rhedeg y cwrs Darganfod Cristnogaeth yn y Gymraeg
Mae Darganfod Cristnogaeth yn gwrs deg wythnos sydd a’r bwriad o gyflwyno pobl i’r Arglwydd Iesu Grist.
Wrth i efengyl Marc gael ei ddarllen, mae’r rhai sy’n dilyn y cwrs yn cael cyfle i ddarganfod gwir neges Cristnogaeth drwy edrych ar dri chwestiwn:
- Pwy oedd Iesu?
- Pam y daeth ef?
- Beth mae ei ddilyn ef yn ei olygu?
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda steffanjob@mudiad-efengylaidd.org
Defnyddiwch y dolennau uchod i weithio’ch ffordd o gwmpas y wefan.
Mae Darganfod Cristnogaeth yn gyfieithiad o’r cwrs Saesneg ‘Christianity Explored’.
